Rhwydwaith o safleoedd a reolir er budd bywyd gwyllt yw Tirweddau Byw. Mae'r ardaloedd pwysig yma'n llecynnau cyfoethog o ran byd natur ac yn cysylltu rhannau o'r cefn gwlad ehangach.
Gall pob un ohonon ni fwynhau’r lleoedd arbennig yma a phrofi’r byd natur sydd ar garreg ein drws.
Mae’r prosiect yn cynnwys 29 o safleoedd ledled RhCT (a rhagor yn dod yn fuan) yn amrywio o goetir sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a glaswelltiroedd i fynwentydd a dolydd parc. Ein nod yw rheoli rhwydwaith bioamrywiol cysylltiedig o safleoedd ledled y sir gan roi cartref y mae mawr ei angen i fyd natur, ac ardaloedd llawn bywyd gwyllt y gall y cyhoedd ymweld â nhw a’u mwynhau.