Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Amlosgfa Llwydcoed

Dyma laswelltir llawn blodau gwyllt ar safle Amlosgfa Llwydcoed. Yn aml mae gan fynwentydd amodau gwych i rai fflora a ffyngau ffynnu, ac o ganlyniad i newidiadau i'r arferion torri gwair diweddar, rydyn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn lefelau bioamrywiaeth y safle yma.

 

Amlosgfa-Llwydcoed
Meadow-Thistle
Meadow Thistle | © Sue Westwood

Cynefin

Mae'r dirwedd brydferth o amgylch yr amlosgfa yn bwysig ar lefel ryngwladol oherwydd ei chorsydd a phresenoldeb glöyn prin britheg y gors. Dyma fioamrywiaeth de Cymru ar ei gorau, felly cymerwch saib i fwynhau'r cynefin prin yma.

Rydyn ni'n sicrhau bod blodau gwyllt yn parhau i dyfu yma trwy roi dulliau rheoli tir newydd ar waith. Dydyn ni ddim yn torri pob darn o wair, fel bod modd i flodau gwyllt dyfu a hadu cyn i ni dorri'r glaswellt a’i gasglu yn yr hydref.

 

Pryd i Ymweld

Dewch yn gyson drwy'r gwanwyn a'r haf i weld sut mae'r blodau'n newid gyda threigl y tymhorau. Mwynhewch flodau pinc melog y cwˆ n a gwialen
y gwˆr ifanc, melyn tresgl y moch, gwyn briwydd y gors a phorffor ysgall y ddôl a thegeirian cors y de. Yn yr haf mae'n drwch o flodau glas a phorffor tamaid y cythraul.

Bioamrywiaeth

Mae'r cynefinoedd yma sy'n llawn blodau yn wych ar gyfer pryfed peillio, gan gynnwys glöynnod britheg y gors a britheg berlog, pryfed hofran melyn a gwenyn llus. Mae gwenoliaid yn treulio diwrnodau hir o haf ymysg y blodau yn dal pryfed ac mae ystlumod pedol lleiaf yn ymweld yn ystod y nos.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Bilberry-Bumblebee

Gwenynen Lus - © Liam Olds

Heath-Spotted-Orchid

Gwialen y Gŵr Ifanc - © Bob Lewis

Lousewort

Melog y Cŵn - © Kate Stock

Small-Pearl-Bordered-Fritillary 2

Glöyn Britheg Berlog - © Liam Olds

Swallow

Gwennol - © Wayne Withers

Southern-Marsh-Orchid

Tegeirian Cors y De - © Southern Marsh Orchid

Tormentil

Tresgl y Moch - © Lyn Evans

Yellow-Barred-Peat-Hoverfly

Pry Hofran Melyn - © Liam Olds