Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Cefn Don

Mae cymoedd rhewlifol Hirwaun yn edrych dros y ddôl flodau gwyllt hardd yma. Ymwelwch i weld llinosiaid euraidd, ji-bincod, pryfed gwenyn a gloÿnnod byw gleision cyffredin yn gwledda ar y pengaled du a thamaid y cythraul.

 

Cefn-Don
Common-Blue
Glesyn Cyffredin - © Wayne Withers

Cynefin

Mae Cefn Don a'i olygfeydd godidog o gymoedd rhewlifol Hirwaun yn atgof o'r harddwch a'r bioamrywiaeth sydd ar stepen ein drws. Yma mae gweirglodd newydd llawn blodau gwyllt ar ôl i ni
dorri'r gwair a gadael i'r blodau dyfu'n rhydd trwy roi newidiadau rheolaeth syml ar waith. Drwy'r haf mae'r glaswelltir yn blodeuo a hadu ac ar ddechrau'r hydref
rydyn ni'n torri'r gwair ac yn cael gwared arno. Dyma sydd angen ar flodau gwyllt er mwyn iddyn nhw ffynnu.

Pryd i Ymweld

O fis Ebrill i fis Medi mae'r glaswelltir yn llawn blodau gwyllt ac yn llawn pryfed. Mae'n bosibl gweld draenogod yn chwilio am wlithod a malwod gyda'r
nos yn yr haf. Yn y gaeaf mae modd gweld bronfreithod, mwyeilch, socannod eira a chochion dan adain yn hela am fwydod yn y pridd gwlyb neu'n bwyta aeron y ddraenen wen a'r griafolen.

Bioamrywiaeth

Mae modd gweld y cardwenynen cyffredin, gwenynbryf a glöynnod byw gweirlöyn y ddôl, iâr fach y glaw, glesyn cyffredin a rhagor yma. Mae hadau'r pengaled du a thamaid y cythraul yn ffynonellau
bwyd pwysig iawn i bincod. Mae ystlumod yn gwibio o amgylch y tai cyfagos yn y nos, gan fwydo a symud drwy'r pentref yn hawdd.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Black-Knapweed

Blodau Pengaled Du - © Bethan Dalton

Song Thrush

Bronfraith - © Tate Lloyd

Goldfinch-2

Nico - © Wayne Withers

Hawthorn-Berries

Aeron y Ddraenen Wen © Bethan Dalton

Bee-Fly

Gwenynbryf - © Tate Lloyd

Hedgehog

Draenog - © Ray Edwards

Chaffinch

Ji-binc - © Holly Tudball

Large-Red-Damselfly

Mursen Fawr Goch - © Wayne Withers