Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Parc Nant Celyn

Yn ffinio ag ystâd Parc Nant Celyn, dyma enghraifft wych o fyd natur ar garreg eich drws. Mae'n cynnwys pwll a nant naturiol a sawl glaswelltir gwlyb llawn blodau gwyllt, sy'n cael eu rheoli gan beiriannau ac sy'n cael eu pori er lles cadwraeth.

 

Parc-Nant-Celyn
Brimstone
Brimstone | © Wayne Withers

Cynefin

Mae Parc Nant Celyn yn wlyptir isel ynllawn bioamrywiaeth yn y glaswelltircorsiog, gweirglodd a choetir. Mae porier lles cadwraeth a rheoli 'torri a chasglu'gyda pheiriannau arbennig yn caniatáui'r ardal yma edrych ei gorau.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn mae Nant Celyn yn llawncân telorion yr helyg, telorion penddu,mwyeilch a bronfreithod. Mae anfri achlychau'r gog yn blodeuo o dan y coed.Yn yr haf mae’r weirglodd yn llawnblodau tegeirian-y-gors deheuol, angylesy coed, briwydd y gors a helyglys. Yn ygors byddwch chi'n dod o hyd i ysgall yddôl, bual a thresgl y moch. Mae'r safle'nnewid o fod yn wyrdd i oren a melyn ynyr hydref, ac mae cudyll coch yn helallygod y gwair yn y gaeaf.

 

Bioamrywiaeth

Glaswellt y gweunydd a brwyn, bacwn acwyau, tresgl y moch, carpiog y gors a barfy bwch yw rhai o'r rhyfeddodau a welwchchi ar laswelltir Nant Celyn. Mae nadreddy gwair yn chwilio am frogaod yn y gwairgwlyb, ac efallai y gwelwch chi ambellwalch glas. Mae glöynnod gwyn blaenoren yn dodwy eu hwyau ar gogau -cadwch lygad am yr wyau oren bychain.Yn y perthi mae brauwydd, sef bwydglöynnod melyn y rhafnwydd. Yn ôl ysôn, lliw melyn llachar y glöyn melyny rhafnwydd gwrywaidd oedd yrysbrydoliaeth tu ôl i'r enw 'butter-fly'.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Bank-Vole

Llygoden Bengron Goch  © Wayne Withers

Grass-Snake

Neidr y Gwair © Wayne Withers

Common-Frog

Broga © Bethan Dalton

Southern-Marsh-Orchid

Tegeirian y Gors © Lyn Evans

Ragged-Robin2

Carpiog y Gors © Lyn Evans

Kestrel

KCudyll Coch © Wayne Withers

Song-Thrush

Bronfraith © Wayne Withers

Orange-Tip

Glöyn Gwyn Blaen Oren © Tate Lloyd