Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Penrhiwceiber

O amgylch y cae chwarae mae glaswelltiroedd sborion glo gwych sy'n llawn bywyd gwyllt. Mae tegeirianau'r gors, carpiogion y gors a blodau aspygen yn gorchuddio'r safle mewn lliw, tra bod madfallod cyffredin a nadroedd defaid yn torheulo yn yr heulwen.

 

Penrhiwceiber
Blue-Tit-2
Titw Tomos Las © Wayne Withers

Cynefin

Mae byd natur wedi ymgartrefi rhwngy caeau chwaraeon. Mae'r glaswelltiryma, sy'n sgil effaith o hanesdiwydiannol cymoedd De Cymruyn gyfoeth o fioamrywiaeth. Er mwyn sicrhau bod y blodaugwyllt yn dal i edrych ar eu gorau,mae'n rhaid torri a chasglu'r gwairo dro i dro.

Pryd i Ymweld

Mae'r sborion glo yn caniatau iflodau gwyllt ffynnu. Cadwch lygadam flodau ymenyn, meillionen goch,pengaled du, aspygan, carpiog ygors a thegeirian cors y de. Arddechrau'r gwanwyn, mae perthi'rhelyg yn drwch o genau cyll sy'nffynhonnell o baill i gacwn agwenyn turio.

Bioamrywiaeth

Mae'r pyllau mwdlyd yn ddeunyddhanfodol i wenoliaid y bondoer mwyn iddyn nhw adeiladu nythod.Mae glöynnod y gwibiwr llwyd a cliradainchwe rhesen yn dodwy wyau ar flodaubacwn ac wy - planhigyn sy'n ffynnuar y sborion glo. Mae llygod yn brysiodrwy'r gwair uchel, yn cuddio rhagbwncathod llwglyd yn ystod y dydd athylluanod brech yn y nos. Cymerwchsaib i glywed mwyeilch, drywod,robiniaid, telorion penddu, titwˆod tomoslas, titwˆod mawr a bronfreithod yn canugyda'r wawr a'r machlud.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Common-Birds-Foot-Trefoil

Blodau Bacwn ac Wy © Bethan Dalton

Southern-Marsh-Orchid2

Tegeirian Cors y De © Kate Stock

Vole-2

Llygoden Bengrwn © Wayne Withers

Oxeye-Daisy

Aspygan © Bethan Dalton

Ragged-Robin2

Carpiog y Gors  © Lyn Evans

Common-Lizard2

Madfall Cyffredin © Wayne Withers

Dingy-Skipper

Gwibiwr Llwyd  © Holly Tudball

Willow-Bud

Egin Helyg