Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Mynwent Ty Rhiw

Mae’r fynwent yma'n llawn ffyngau cap cwyr a llawer o rywogaethau glaswelltir brodorol diddorol eraill. Mae’r ardal yma wedi’i chadw’n benodol fel man i’r rhywogaethau hynny ffynnu o dan gynlluniau torri newydd sydd er lles natur.

 

Mynwent-Ty-Rhiw
Long-Tailed-Tit
Titw Cynffon-Hir - © Wayne Withers

Cynefin

Mae'r fynwent yn gartref i laswelltir llawnblodau sy'n cael ei reoli trwy ddefnyddiodull torri a chasglu. Drwy'r haf mae'rglaswelltir yn blodeuo a hadu cyn i nidorri a chasglu'r gwair. Dyma'r gyfrinach igynnal ac annog blodau i dyfu.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn a'r haf mae'r fynwent ynllawn blodau gwyllt ac yn llawn swˆngwenyn a phryfed hofran. Yn yr hydrefmae'r fynwent yn lle gwych ar gyferffwng glaswelltir ac yn y gaeaf maetitwˆod cynffon hir a drywod eurbenyn bwydo yn y coed.

Bioamrywiaeth

Yma byddwch chi'n dod o hyd iflodau melyn bacwn ac wy, briallu mair,blodyn-ymenyn ymlusgol, melynyddcyffredin a dant y llew. Mae'r glöynnodgwyn blaen oren yn bwydo ar flodaupinc y cegid bychain. Mae cnocellodgwyrdd â'u pennau coch a du a chyrffgwyrdd a melyn yn bwydo ar forgrug acmae modd eu clywed yn 'chwerthin' yn ycoed. Mae'r ffwng cap cwyr duol a chapcwyr y parot, pencrwm pinc, pastwn abonet yn rhai o'r rhywogaethau o ffwngsydd ym Mynwent Tyˆ Rhiw.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Primrose

Briallu © Bob Lewis

Green-Woodpecker

Cnocell Werdd © Wayne Withers

Orange-Tip-2

Glöyn Gwyn Blaen Oren © Wayne Withers

Club-Fungus

Ffwng Pastwn  © Bethan Dalton

Cuckooflower

Blodau'r Cegid Bychain  © Wayne Withers

Goldcrest

Dryw Eurben © Wayne Withers

Blackening-Waxcap

Cap Cwyr Duol  © Bethan Dalton

Cowslip

Briallu Mair © Lyn Evans