Mwynhewch arddangosfa o flodau gwyllt yn cynnwys suran y coed, esgidiau a sanau y gog, clychau'r gog ac aurddynadlen. Yn y coed gwlyb ceisiwch ddod o hyd i ddail melyn a gwyrdd yr eglyn a rhisgl brith y brauwydd, sef bwyd glöynnod melyn y rhafnwydd. Cadwch lygad ar y canopi sy'n gartref i fwncathod, cigfrain a thri math o delor dail: siff-siaffod, telor y coed a thelor yr helyg.