Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Mynwent Llanharan

Dyma laswelltir llawn blodau wedi'i leoli yng nghefn Mynwent Llanharan. Mae newidiadau mewn dull rheoli yn helpu’r glaswelltir yma i ffynnu, gan ddarparu cartref y mae mawr ei angen ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau. 

 

Mynwent-Llanharan
Burnet-Companion
Gwyfyn Ffacbys  © Holly Tudball

Cynefin

Dyma ddôl wych a phrin sy'n llawnblodau gwyllt sy'n cael eu cynnaltrwy ddull torri a chasglu. Drwy'rhaf rydyn ni'n gadael i'r glaswelltirflodeuo a hadu cyn torri a chasglu'rgwair. Dyma'r gyfrinach i annogblodau gwyllt.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn, mwynhewch yrarddangosfa o friallu mair, blodaubacwn ac wy, blodau ymenyn, arianbyw, bual ac aspygan. Yn yr haf maeporffor y pengaled du i'w weld. Mae'rblodau yma'n un o ffefrynau'r pryfedpeillio. Ar ôl torri'r glaswellt yn yrhydref mae mwyeilch a bronfreithodyn ymweld i fwyta mwydod ac maecoch, melyn ac oren llachar y ffwngcap cwyr yn ymddangos.

Bioamrywiaeth

Yn yr haf mae glöynnod prydferthglesyn cyffredin a gwyfynod bwrnedchwe smotyn a ffacbys yn hedfanymysg y blodau, yn gorwedd ynyr haul ac yn dodwy wyau ar yplanhigion. Mae'r pryfed yn Llanharanyn denu ymwelwyr drwy'r nos. Mae'rystlumod lleiaf cyffredin yn ymweld ifwydo ar wyfynod a phryfed bach,ac yn dal eu hysgylfaethod trwy ddullecoleoli. Gall ystlum lleiaf cyffredinfwyta hyd at 3,000 o bryfed bachmewn un noson!

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Black-Knapweed

Pengaled Du © Bethan Dalton

Blackbird

Aderyn Du  © Wayne Withers

Common-Blue

Glöyn Glesyn Cyffredin © Holly Tudball

Common-Birds-Foot-Trefoil

Blodyn Bacwn ac Wy © Bethan Dalton

Cowslip

Briallu Mair © Lyn Evans

Song-Thrush

Bronfraith © Wayne Withers

Blackening-Waxcap

Cap Cwyr Duol  © Bethan Dalton

Quaking-Grass

Arian Byw © Lyn Evans