Mae'r sborion glo gwlyb yn ffurfio amgylchiadau tebyg i lac twyni, gan ddarparu cynefin delfrydol i degeirian cors y de a dail coedwyrdd crwn prin. Bydd mwydod araf, gwiberod a madfallod yn gorwedd ar y tir poeth a bydd tylluanod gwynion yn hela am lygod, llygod pengrwn a llygon. Mae llawer o löynnod britheg berlog bach a britheg werdd i'w cael yma. Mae'r blodau gwyllt ar y sborion glo yn gymysg o grug, grug croesddail, llus, pysen y ceirw/bacwn ac wy, tegeirian gwenynen a llin y mynydd ynghyd â chlych y cerrig neu gen ceirw.