Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Ynysddu

Yn rhedeg yn gyfochrog ag Afon Elái mae dôl gorlifdir Ynys-ddu ym Mhont-y-clun. Yma fe welwch leision y dorlan, siglennod llwyd, nadroedd defaid, a digon o fflora daear y coetir.

 

Ynysddu
Common-Darter
Gwas Neidr Cyffredin | © Wayne Withers

Cynefin

Mae'r cynefin yma wedi goroesi'rglaswelltiroedd gwlyb a oedd gynt ynbodoli ar hyd cwm Elái. Mae'r glaswelltirllawn blodau gwyllt a choetir glan yr afonyn atgof o orffennol yr ardal ac yn gartrefi gyfoeth o rywogaethau. Rydyn ni'ncynnal bioamrywiaeth Ynysddu trwydull rheolaeth torri a chasglu.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn, daw'r tir yn fyw â blodaubara caws, aur bach y gwanwyn ablodau'r cegid bychain. Mae'r helyg ynffynhonnell bwysig o baill ac maen nhw'ndenu gwenyn turio. Daw'r haf â blodaubarf y bwch, pengaled du, blodau powdra thamaid y cythraul. Ewch yno gyda'rnos i weld ystlumod yn hela. Yn y gaeafmae modd gweld gleision y dorlan asiglenod llwyd ar yr afon, ac os ydychchi'n lwcus, efallai byddwch chi'n gwelddyfrgwn neu eog!

Bioamrywiaeth

Byddwch chi'n gweld nifer o fursennodmawr coch, gweision neidr cyffredin agloÿnnod brych y coed. Edrychwch arhyd yr afon am fronwennod y dwˆr – maennhw'n mynd o dan y dwˆr i ddal anifeiliaiddi-asgwrn-cefn. Mae chwilod trwynaugwaedlyd yn gyffredin yma, felly cadwchlygad amdanyn nhw'n symud ynhamddenol drwy'r gwair. Er eu bodnhw'n swil, efallai byddwch chi'n gweldnadroedd defaid neu wiberod yngorwedd yn yr haul ar ymyl y coetir.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Wood-Anemone

Blodyn Bara Caws © Kate Stock © Bethan Dalton

Bloody-Nosed-Beetle

Chwilen Trwyn Gwaedlyd © Bethan Dalton

Adder

Gwiber © Wayne Withers

Devils-Bit-Scabious

Tamaid y Cythraul © Bethan Dalton

Meadowsweet

Barf y Bwch © Bob Lewis

Speckled-Wood

Glöyn Brych y Coed © Wayne Withers

Dipper

Bronwen y Dwr © Tate Lloyd

Willow-Bud

Egin Helyg