Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Ty Rhiw

Dyma goetir collddail brodorol hardd sy'n llawn bioamrywiaeth. Gan gysylltu â llwybr Taith Taf uchod, mae'r safle yma'n ddolen gyswllt bwysig mewn cadwyn o gynefinoedd sy'n caniatáu i natur symud yn rhydd. Rhaid ymweld yn gynnar yn y gwanwyn.

 

TY-RHIW
Nuthatch
Nuthatch | © Wayne Withers

Cynefin

O'ch blaen mae coetir hynafol yn llawncoed derw, ffawydd, ynn, cyll, celyn achornel. Llwybreiddiwch drwy'r coed ifwynhau blodau gwyllt a rhedynbrodorol y coetir.

Pryd i Ymweld

Mae fflora'r tir ar ei orau yn y gwanwyngyda charpedi o glychau'r gog, blodau'rgwynt, esgidiau a sanau y gog, cradynion, blaen yr iwrch, briallu, tafod yrhydd a gwibredyn. Ewch yno'n gynnar yny bore i glywed corws y wawr. Ewch ynoyn yr hydref i weld ffwng a phidyn y gogyn llawn aeron coch. Peidiwch â chaeleich twyllo gan brydferthwch yr aeronyma, maen nhw'n wenwynig.

Bioamrywiaeth

Mae pathewod yn byw yma ond maehi'n anodd iawn gweld y mamaliaidbychain yma. Cadwch lygad am gnaucyll gyda thyllau llyfn a chrwn - dymaarwydd bod pathewod wedi’u hagor.Mae modd gweld ambell delor y cnauyn brysio lan ac i lawr boncyffion y coedyn chwilio am fwyd. Efallai y byddwchchi'n sylwi ar robin chwilfrydig yn eichdilyn chi, yn gobeithio bwyta unrhywbryfed blasus rydych chi'n eu deffro.Ar ddyddiau poeth yn yr haf, maegloÿnnod brithribin porffor yn gorffwysar ddail y coed derw ac yn yfed melwlith,sef hylif melys sy'n dod o bryfed gleision.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Hazel-Dormouse

Pathew © Clare Pengelly

BlueBells

Clychau'r Gog  © Lyn Evans

Wood-Anemone

Bara Caws  © Bethan Dalton

Harts-Tongue-Fern

Tafod yr Hydd © Bob Lewis

Lords and Ladies

Pidyn y Gog © Bethan Dalton

Robin

Robin - © Wayne Withers

Dormouse-Hazelnut

Cneuen Gollen wedi'i hagor gan Bathew

Primrose

Briallu © Bethan Dalton