Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Glyncornel

Mae coetir a dolydd llawn blodau Glyncornel wedi goroesi newidiadau enfawr ac mae ôl hanes gyfoethog yr ardal dal i'w weld yno hyd heddiw.

Mae'r ardal wedi esblygu o goetir fferm ar ochr y bryn mewn i ardd ar gyfer rheolwyr glofa y Cwmni Cyfunol Glo'r Cambrian, felly cadwch lygad am y platfformau bach yn llawn coed cyll a gafodd eu defnyddio i gynhyrchu siarcol. Yn fwy diweddar mae Glyncornel wedi bod yn gartref i ysbyty mamolaeth a chanolfan amgylchedd.

Glyncornel
Buzzard-2
Bwncath | © Tate Lloyd

Cynefinoedd

Cafodd y coetir hynafol ei enwebu yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol. Mae yno ddolydd prydferth, pwll dwˆr a nant sy'n llifo i'r afon Rhondda. Daw'r holl elfennau yma ynghyd i greu mosäig o gynefinoedd sy'n cefnogi'r ystod eang o rywogaethau sy'n ymgartrefi yng Nglyncornel.

Pryd i Ymweld

Mae blodau'n tyfu'n hwyr yng Nglyncornel - mae clychau'r gog yn dal i dyfu yno ar ôl iddyn nhw flodeuo ym mhobman arall. Dewch pan mae hi'n bwrw glaw a throchwch yn y dirwedd hudolus o fwsog lluosog a brigdwf cymhleth.

Bioamrywiaeth

Mae gweirgloddau sur, llaith a rhyfeddol o'ch blaen. Yma gallwch chi ddod o hyd i dresgl y moch, clychau'r gog, bidoglys, tegeirian smotiog cyffredin, glöynnod copor bach a glöynnod bach y waun. Trwy 'dorri a chasglu' gwair tuag at ddiwedd yr haf, rydyn ni'n rheoli'r rhedyn ac yn annog blodau gwyllt i dyfu. Mae'r gweirgloddau wedi'u rhannu gan linellau o goed sy'n rhan o'r brif goetir, ac felly mae byd natur yn cyrraedd pob rhan o'r warchodfa natur.

Rydyn ni'n byw yma... Allwch chi ein gweld ni?

Vole

Llygoden Bengron Goch - © Wayne Withers

Heath-Spotted-Orchid

Tegeirian Smotiog y Gors - © Bob Lewis

Tormentil

Tresgl y Moch - © Lyn Evans

Small-Copper

Copor Bach - © Wayne Withers

Beautiful-Demoiselle

Agrion Dywyll - © Bob Lewis

Slow-Worm

Neidr Ddefaid - © Wayne Withers

Bluebells-2

Clychau'r Gog

Southern-Marsh-Orchid

Tegeirian y Gors - © Lyn Evans