Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Parc Dowlais

Dyma laswelltir corsiog wedi'i leoli yng nghanol coetir collddail gwlyb a phyllau naturiol, tymhorol syddger Nant Dowlais. Mae'r mosaig yma o gynefinoedd yn creu safle bioamrywiol rhyfeddol.

 

Parc-Dowlais
Kingfisher
Glas y Dorlan | © Tate Lloyd

Cynefin

Ar y safle wych yma mae glaswelltircorsiog, coetir gwlyb a'r nant Dowlais.Dyma gynefin i amrywiaeth eang o fflora,ffwng a ffawna. Mae'r dull rheoli 'torri achasglu' yn sicrhau bod blodau gwylltyn blodeuo yma, ac yn sicrhau nad ywplanhigion ymledol yn effeithio ar yplanhigion eraill.

Pryd i Ymweld

Dewch i glywed cân yr adar yn ygwanwyn. Yn yr haf, cadwch lygadam garpiog y gors, tegeirian-y-gorsdeheuol a barf y bwch a mwynhewcharogl hyfryd y mintys blewog. Yn y nos,gallwch weld ystlumod hirglust yn hedfandrwy'r coed ac yn y gaeaf, gwrandewcham alwadau'r tylluanod brech.

 

Bioamrywiaeth

Mae Parc Dowlais yn cynnal cynefingwych ar gyfer pryfed gyda gloÿnnod bywmawr a gwibwyr llwyd, chwilod trwynaugwaedlyd, criciaid pen côn esgyll byr achardwenyn. Wrth y nant, mae blodauprydferth ond gwenwynig cwcwll ymynach yn cuddio yn y cysgodion.Yn y nant mae’r penlletwad yn nofio a'rdyfrgwn yn eu hela. Yn y gors dewch ohyd i facwn ac wyau ac angyles y coed.Efallai y byddwch chi'n ddigon ffodus iweld dringwr bach yn dringo coedengyda'i draed, crafangau hirion a chynffonanystwyth ac yn archwilio'r rhisglau ambryfed blasus.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Bloody-Nosed-Beetle

Chwilod Trwynau Gwaedlyd  © Bethan Dalton

Water-Mint

Mintys Blewog © Bethan Dalton

Speckled-Wood-2

Glöyn Brych y Coed  © Bethan Dalton

Tawny-Owl

Tylluan Frech  © Tate Lloyd

Meadowsweet

Barf y Bwch  © Bethan Dalton

Treecreeper2

Dringwr Bach © Wayne Withers

Otter

Dyfrgi  © Tate Lloyd

Monks-Hood

Cwcwll y Mynach  © Lyn Evans