Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Cefn Yr Hendy

Cefn yr Hendy has three small but beautiful ancient woodlands. Once used for iron ore mining and limestone quarrying, they are recovered by nature.

Home to a wonderful limestone flora with just hollows and hummocks as reminders of an industrial past. Sensitive management of diseased ash trees, retaining deadwood, and preventing litter and garden rubbish are important management priorities here.

Cefn-Yr-Hendy
Robin
Robin | © Wayne Withers

Cynefin

Mae gan Gefn yr Hendy dri choetir hynafol bach a phrydferth. Er iddyn nhw gael eu defnyddio i fwyngloddio haearn a chwarela calchfaen yn y gorffennol, mae byd natur bellach wedi'u hawlio unwaith eto.

Mae'r coetiroedd yn gartref i fflora calchfaen ac yn llawn pantiau a thwyni yn atgof o orffennol diwydiannol yr ardal. Mae rheoli pren ynn wedi'i heintio mewn modd sensitif, cadw coed marw, ac atal sbwriel a gwastraff yn flaenoriaethau pwysig yn yr ardal yma.

Pryd i Ymweld

Mwynhewch y blodau gwyllt a chân yr adar yno yn y gwanwyn a gwyliwch yr ystlumod yn hela am wyfynnod yn yr haf. Yn yr hydref ewch i chwilio am ffwng a dilynwch drywod eurben, gleision cynffon hir a sawl titw tomos las a thitw mawr yn twrio am fwyd yn y coed.

Yn y gwanwyn, mae'r perthi a’r coetir yn llawn blodau gwyllt a chân yr adar. Yn yr haf, mae'r dolydd yn llawn bywyd ar ôl i'r blodau gwyllt flodeuo. Mae'r hydref yn wych ar gyfer ffwng y glaswelltir, ac yn y gaeaf mae brychau'r coed a socanod eira yn bwyta aeron y ddraenen wen. Ewch yno gyda'r hwyr i weld yr ystlumod yn bwydo ar bryfed.

DunnockDunnock | © Wayne Withers

Bioamrywiaeth

Mae gan y coetiroedd calchfaen goed ffawydd ac ynn, coed cyll, cornel a llwyn addurnol. Mae'r fflora ar lawr y coetir yn llawn clychau'r gog, briallu, blodau'r gwynt, helyg a chra dynion. Mae'r deintlys cennog parasidig yn tyfu ar waelod yr hen berthi cyll ac mae'r fflora cyfoethog yn cynnwys gwrychredyn meddal a rhedyn gwrywaidd mawr. Er nad ydyn ni wedi dod o hyd iddyn nhw eto, rydyn ni'n tybio bod y coed cyll yn llawn pathewod, felly cadwch lygad am gnau cyll sydd wedi'u hagor!

Mae'r ardal yma'n gynefin adar arbennig i rywogaethau megis drywod, dringwyr bach, siff-siaffod ac eurbincod sy'n bwyta hadau'r weirglodd. Mae fflora hynafol yno hefyd yn llawn clychau'r gog, briallu, bwyd y moch ac anfri. Efallai y byddwch chi'n gweld ffwng ffwng crawen ludiog, sy'n glynu brigau gwrychoedd marw at rai byw. Mae cannoedd o flodau tegeirian yn y dolydd hefyd, ble mae gwenyn hirgorn yn twrio am fwyd a llwynogod yn hela yn y nos.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

BlueBells

Clychau'r Gog - © Bethan Dalton

Turkeytail-Fungus

Ffwng Cynffon Twrci - © Bob Lewis

Toothwort

Deintlys Cennog - © Wayne Withers

Dormouse-Hazelnut

Cneuen Gollen wedi'i hagor gan Bathew

Wood-Anemone

Blodyn y Gwynt - © Bob Lewis

Treecreeper

Dringwr Bach - © Holly Tudball

Speckled-Wood-2

Brych y Coed - © Bethan Dalton

Beech

Ffawydden - © Bob Lewis