Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Parc Eirin

Yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Rhos Tonyrefail, mae'r safle yma'n gymysgedd gwych o afonydd, mawn iseldir a chynefin coetir collddail brodorol. Mae gwaith yn cael ei gynnal yma i gyflwyno anifeiliaid sy'n pori er lles cadwraeth i warchod a gwella'r safle yma.

 

Parc-Eirin
Jay
Sgrech y Coed | © Wayne Withers

Cynefin

Mae Parc Eirin yn rhan o Safle oDdiddordeb Gwyddonol Arbennig RhosTonyrefail sy'n safle bwysig ar lefelgenedlaethol ar sail ei phorfeydd corslydsy'n gartref i lu o rywogaethau. Mae ynohefyd fawnog prin, coetir yn llawn coedderwen, gwernen a chyll a'r nant Eirin.Mae angen pori'r rhos a rheoli'r coetirer lles cadwraeth ar y cynefinoeddarbennig yma.

Pryd i Ymweld

Trwy gydol y gwanwyn a’r haf, gallwchweld y blodau gwyllt arbennig a phryfedy coetir a'r rhos. Ar ddechrau'r hydrefcadwch lygad am y 'four-spot orbweaver', sef pry-copyn trymaf yDU ymysg blodau porffor tamaid ycythraul. Yn y gaeaf, ceisiwch ddodo hyd i ditw bach a gwehydd yn twrioam fwyd yn y coed.

Bioamrywiaeth

Mae fflora'r rhos yn cynnwys dant ypysgodyn, grug croesddail, llafn y bladura thegeirian smotiog y gors. Mae rhosTonyrefail yn cefnogi britheg y gors prinfelly cadwch lygad am y glöynnod orenprydferth yma. Mae llyg y dwˆr yn bywyma ac yn mynd i nant Eirin yn aml ihela am fwyd gan ddefnyddio eu poergwenwynig. Mae'r coetir yn gynefingwych i adar megis sgrech y coed, delory cnau, cnocell fraith fwyaf a bronfraith.Yn y gaeaf mae cyffylog a gïach cyffredinyn bwydo yn y glaswelltir gwlyb.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Marsh-Fritillary3

Britheg y Gors  © Bethan Dalton

Orb-Weaver-Spider

Orb-Weaver Spider © Bethan Dalton

Oak

Derwen © Bob Lewis

Wren

Dryw © Wayne Withers

Water-Shrew

Llyg y Dŵr  © Jenny Hibbert

Petty-Whin

Cas Gan Arddwr © Holly Tudball

Cross-Leaved-Heath

Grug Croesddail © Bethan Dalton

Small-Pearl-Bordered-Fritillary

Britheg Berlog Fach © Bob Lewis