Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Rhos Cwmdar

Ehangder o borfa rhos corsiog, glaswelltir asidaidd a choetir ym Mharc Gwledig Cwm Dâr lle byddwch chi'n dod o hyd i'r gïach cyffredin, cyffylog, cogau, pry cop ‘orb-weaver’ a brithion perlog bach ymhlith glaswellt y gweunydd a brwyn.

 

Rhos-Cwmdar
Cuckoo
Cog | © Wayne Withers

Cynefin

Yma dewch o hyd i dir corsiog,glaswelltir sur a choetir. Mae moddgweld gwartheg yn bwydo yn ycaeau - mae gwartheg yn rhanbwysig a thraddodiadol o reoli'rglaswelltir i gynnal yr amrywiaethwych o flodau gwyllt sydd yma.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn mae cogau a chorhedyddy coed yn canu a chylchau'r gog ynblodeuo ar ochr y bryn. Mae'r haf ynamser gwych i weld blodau gwyllt aphryfed. Dewch yn yr hydref i weldlliwiau'r ardal yn newid wrth i laswelltporffor y cors droi'n oren a gwyn, a'rcoed derw'n troi o wyrdd i oren llachar.Yn y gaeaf mae modd gweld ambellgïach cyffredin a chyffylog, neu hydyn oed lwynog yn cysgu.

Bioamrywiaeth

Mae blodau bacwn ac wyau, carpiog ygors, fioled y gors, tamaid y cythraul,brwynen glymog glaergib a brwynsypiedig ymysg y planhigion gwych syddar y rhos. Mae hefyd yn gartref i bry-cop'four-spot orb-weaver', glöynnod brithegberlog, gweision neidr eurdorchog,llygod ac ystlumod. Mae ambell ffwlbarta charlwm yn hela am fwyd, a chudyllcoch yn hela am lygod ar gyrion y coetir.Ymysg y tresgl y moch a'r briwydden wenyn y glaswelltir asidaidd mae modd dodo hyd i dwmpathau morgrug hynafol.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Tormentil

Tresgl y Moch © Lyn Evans

Golden-Ringed-Dragonfly

Gwas Neidr Eurdorchog - © Wayne Withers

Red-Fox

Cadno © Wayne Withers

Oak-2

Derwen © Bob Lewis

Ragged-Robin2

Carpiog y Gors © Lyn Evans

Small-Pearl-Bordered-Fritillary

Britheg Berlog Fach © Bob Lewis

Snipe

Gïach Cyffredin © Wayne Withers

Polecat

Ffwlbart © Philip Orris