Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Chwarel Llanhari

Wedi’i hamgylchynu gan ystadau tai, mae’r chwarel galchfaen segur yma bellach yn dychwelyd i’w chyflwr naturiol ar ffurf coetir ynn hardd a glaswelltir calchaidd.

 

Chwarel-Llanhari
Wood-Warbler
Wood Warbler | © Tate Lloyd

Cynefin

Croeso i goetir calchfaen a glaswelltir calchaidd pen i gamp sy'n gartref i gyfoeth o rywogaethau arbennig. Bu'r chwarel yn un gweithredol yn y gorffennol ond mae natur bellach wedi hawlio'r ardal. Mae modd i ni ddiogelu bioamrywiaeth chwarel Llanhari am flynyddoedd i ddod trwy reoli'r coed mewn ffordd sensitif, cadw pren marw, rheoli'r glaswelltir a chael gwared ar sbwriel a phlanhigion ymledol.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn mae'r coetir yn fôr o flodau gwyllt ac mae cân yr adar i'r chlywed yno, ac yn yr haf mae'r glaswelltir yn llawn blodau a swˆn pryfed. Yn y gaeaf mae mantell o fwsoglau a rhedyn yno ynghyd â sawl titw bach a dryw'r eurben.

Bioamrywiaeth

Yma byddwch chi'n dod o hyd i degeirianau smotiog cyffredin a chaill y ci ynghyd â briallu, deintlys cennog, blodau'r gwynt, bacwn ac wy, pengaled du, llin y mynydd a blodau cain y gwraiddiriog cyffredin. Gwelwch siff-siaffod, cnocellod braith mwyaf a delor y cnau yn nythu yma, a dewch yn y nos i weld ystlumod pedol lleiaf. Mae madfallod cyffredin yn gorwedd yn yr haul yn y glaswelltir agored. Os oes rhywbeth yn ymosod arnyn nhw, gall y madfallod yma ollwng eu cynffonau i geisio denu sylw'r ysglafaethwr cyn dianc yn gyflym. Mae'r chwarel yma'n gynefin gwych i anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Cadwch lygad am iâr fach y glaw gyda'i hadenydd brown a chylchoedd lliwgar.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Male-Fern

Marchredyn - © Bob Lewis

Cuckoo

Cog - © Wayne Withers

False-Puffball-Slime-Mould

False Puffball Slime Mould - © Bob Lewis

Haircap-Moss

Mwsog Haircap - © Bob Lewis

Moss-Carpets

Carpedi Mwsog - © Bob Lewis

Tawny-Owl

Tylluan Frech - © Tate Lloyd

Thyme-Moss

Swan's Neck Thyme-Moss - © Bob Lewis

Polecat

Ffwlbart - © Philip Orris