Mae'r Rhondda Fawr yn newid ar sail y tywydd, felly mae'n werth ei gweld drwy gydol y flwyddyn. Ar ôl glaw trwm mae'r dwr yn uchel ac yn ffyrnig, ond pan mae'r lefelau dwˆr yn gostwng mae'r afon yn fas ac yn llifo'n gyflym dros y cerrig bach
sy'n gartref i bryf cerrig a phryfed 'caddisfly'. Mae'r pryfed yma'n ffynhonnell fwyd bwysig i fronwennod y dwr - cadwch lygad amdanyn nhw ar y cerrig neu ar wreiddiau'r coed yn y dwr. Yn y gwanwyn mae'r blodau gwyllt a chân yr adar ar eu gorau, ac mae'r coed gwern yn llawn dail.