Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Mynwent Aberdar

Glaswelltir hynafol ar safle Mynwent Aberdâr. Mae newidiadau o ran trefniadau torri glaswellt yn parhau i fod yn fuddiol i'r cynefin yma sydd mewn perygl cynyddol, ac yn caniatáu iddo ffynnu.

 

Mynwent-Aberdar
Butterfly-Conservation
Glöyn Bach y Waun | © Peter Eeles - Butterfly Conservation

Cynefin

Mae'r fynwent yn laswelltir hynafolsy'n llawn blodau a chors sy'n caelei gynnal trwy ddull torri a chasglugwair. Rydyn ni'n gadael i'r glaswelltirflodeuo a hadu cyn torri a chasglu'rglaswellt. Dyma'r gyfrinach i gynnalac annog blodau gwyllt.

Pryd i Ymweld

Mae'r glaswelltir yn llawn blodauo'r gwanwyn i'r hydref. Mwynhewchliwiau melyn y blodau bacwn ac wy,porffor y pengaled du, bwrgwyn ygwraiddiriog mawrm, pinc carpiog ygors, lliw hufen barf y bwch a gwynbriwydd y gors ymysg y gwair a'rbrwyn. Daw ddiwedd yr haf â blodauporffor tamaid y cythraul a'r hydref âchoch, oren a melyn y ffwng cap cwyr.

Bioamrywiaeth

Yma byddwch chi'n dod o hyd idegeiriannau brith cyffredin a chorsy de, gwyfynod bwrned pum smotynymyl gul, gweision neidr llachar, aglôynnod bach y waun, iâr fach yglaw a britheg y gors (os ydychchi'n lwcus!). Mae cochiaid y berllana llinosiaid yn bwydo ar hadau'rblodau gwyllt. Gyda'r nos maeystlumod yn hela, malwod agwlithod yn denu draenogodac adar corff yn hela llygod.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Common-Birds-Foot-Trefoil

Blodyn Bacwn ac Wy  - © Bethan Dalton

Barn-Owl

Aderyn Corff © Wayne Withers

Blackening-Waxcap

Cap Cwyr Duol © Bethan Dalton

Devils-Bit-Scabious

Tamaid y Cythraul © Bethan Dalton

Greater-Burnet

Gwraiddiriog Mawr © Sue Westwood

Bullfinch

Coch y Berllan © Wayne Withers

Southern-Hawker

Gwas Neidr y De © Wayne Withers

Southern-Marsh-Orchid

Tegeirian Cors y De © Wayne Withers