Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Parc Heddwch

Yn ddôl gorlifdir sy'n brin yn Rhondda Cynon Taf, mae Parc Heddwch yn cynnal amrywiaeth o flodau gwyllt hardd a thrychfilod sy'n manteisio ar y cyfoeth yma.

 

Parc-Heddwch
Golden-Ringed-Dragonfly
Gwas y Neidr Aur | © Wayne Withers

Cynefin

O'ch blaenau mae gweirglodd gorlifdirwrth yr afon Cynon. Mae'r rhan fwyafo ddolydd y gorlifdir wedi cael eudraenio a'u gwella'n amaethyddol drosy blynyddedd diwethaf, felly mae'r ParcHeddwch yn lle prin. Rydyn ni'n gofaluam y tir trwy ddefnyddio dull torri achasglu, sy'n golygu ein bod ni'n gadaeli'r glaswelltir flodeuo a hadu cyn casglu'rglaswellt yn yr hydref. Dyma sut rydynni'n annog blodau gwyllt i dyfu.

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn mwynhewch gyfoeth oflodau porffor y gog, sef bwyd y glöynnodgwyn blaen oren. Yn yr haf mae'rplanhigion ar eu gorau, ac yn llawn pryfedhofran a gwenyn. Yn y nos mae adar corffyn hela am lygod ac yn y misoedd mwycynnes mae ystlumod yn hedfan oamgylch y gwair yn dal gwyfynod.

Bioamrywiaeth

Mae arddangosfa wych o flodaugwyllt, yn bennaf blodau bacwn ac wy,pengaled du, barf y bwch, meillionengoch, tegeirian cors y de, blodyn glasa gwraiddiriog mawr.Dyma gynefin gwych i bryfed, fellycadwch lygad am wibwyr mawra glöyn iâr fach y glaw, gwyfynodbwrned, cricedyn Roesel a choenagriongyffredin. Efallai byddwch chi'n gweldgweision neidr aur, sef gwas y neidr hirafym Mhrydain. Maen nhw'n treulio'r rhanfwyaf o'u bywydau yn nymffod yn yr afoncyn mentro o'r dwˆr yn yr haf pan maennhw wedi tyfu.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Bank-Vole

Llygoden Bengron Goch © Wayne Wthers

Southern-Marsh-Orchid2

Tegeirian Cors y De © Kate Stock

Greater-Burnet

Gwraiddiriog Mawr  © Sue Westwood

Large-Skipper

Gwibiwr Mawr © Keith Warmington - Butterfly Conservation

Brown-Banded-Carder-Bee

Cardwenynen Frown © Liam Olds

Scorpion-Fly

Pry Sgorpion © Wayne Wthers

Roesels-Bush-Cricket

Cricedyn Roesel © Bethan Dalton

Barn-Owl

Aderyn Corff © Wayne Wthers