Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Rhos Llanilltud Faerdref

Wedi’i lleoli yn Llanilltud Faerdref wrth ymyl ffordd osgoi Pentre’r Eglwys, mae’r safle yma'n rhan o rwydwaith eang o gynefinoedd gwlyptir sy’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a rhywogaethau fel glöyn byw britheg y gors sydd mewn perygl.

 

Rhos-Llanilltud-Faerdref
Marsh-Fritillary 2
Britheg y Gors | © Bethan Dalton © Bethan Dalton

Cynefin

Mae cors Llanilltud Faerdref yn wlyptirgwych sy'n gynefin i nifer o rywogaethauyn y gors, mawnog a gweirglodd ar ygorlifdir. Rydyn ni'n cynnal y cynefinoeddyma trwy bori er lles cadwraeth a thorri'rglaswellt. Allwch chi weld y gwartheg sy'ngofalu am y gors?

Pryd i Ymweld

Yn y gwanwyn gwrandewch ar gân brasy cyrs a chorhedydd y coed. Yn yr hafmae'r weirglodd yn llawn blodau megisffa'r gors, triaglog y gors a charpiog ygors. Yn y mawnogydd byddwch chi'ndod o hyd i eira'r gors a mwsog migwyn.Yn yr hydref mae mantell o damaid ycythraul glas a phorffor yn trawsffurfio'rgors. Mae'r gors yma’n gartref i löynnodbritheg y gors ac mae eu gweoedd ynbwydo ar ddail clafrllys - peidiwch â'ucamgymryd am we pry-cop!

 

Bioamrywiaeth

Mwynhewch flodau’r cas gan arddwr,melog y cwˆn, tresgl y moch, grug, grugcroesddail, ysgall y ddôl a blodau pinc agwyn tegeirian smotion y gors. Cadwchlygad am nythod bach a chrwn sy'n gartrefi lygod yr yˆd. Mae'r llygod yma'n pwysocyn lleied â darn 2 geiniog a nhw yw'r unigfamal Prydeinig sydd â chynffon maemodd ei defnyddio i gydio mewncoesynnau gwair!

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Devils-Bit-Scabious

Tamaid y Cythraul © Bethan Dalton

Harvest-Mice

Llygod yr Ŷd © Philip Orris

Marsh-Fritillary-Larval

Gwe Britheg y Gors © Vaughn Matthews

Lousewort

Melog y Cŵn  © Lyn Evans

Ragged-Robin

Carpiog y Gors © Bethan Dalton

Reed-Bunting

Bras y Cyrs  © Tate Lloyd

Tormentil

Tresgl y Moch © Lyn Evans

Heather

Grug © Bethan Dalton