Skip to main content
Part of the RCT Living Landscape Project

Cors Pant Marsh

Wedi'i lleoli ar lan Afon Clun, mae'r ddôl gorlifdir yma'n gartref i amrywiaeth gyfoethog o ffawna a fflora ac yn enghraifft wych o borfa rhos.

 

Cors-Pant-Marsh
Buzzard
Bwncath | © Wayne Withers

Cynefin

Tir glas ar orlifdir yn llawn rhywogaethau amrywiol yw Cors Pant, ac mae'n dibynnu ar lifogydd a llif uchel yr afon Clun. Mae hyn yn rhoi cymeriad unigryw ac arbennig i'r mosäig cyfoethog o laswelltiroedd niwtral a chorsiog, gwern a choetir gwlyb. Mae angen pori'n ystyrlon yn y cynefinoedd yma, rheoli'r coetiroedd gan ddefnyddio dull ‘torri a chasglu’ a rheoli planhigion ymledol.

Pryd i Ymweld

Yn yr haf, ewch i weld blodau lliw gwyn-hufen barf y bwch ac angyles y coed. Mae blodau pinc carpiog y gors yn bywiogi'r hesg tra bod cadwyni porffor o flodyn gwenwynig cwcwll y mynach yn cuddio yng nghysgod glannau'r afon. Ar ddechrau'n hydref mae tarth o damaid y cythraul i'w weld yno. Yn y gaeaf mae gïach yn bwydo yno ac yn y gwanwyn mae bras y cyrs i'w clywed yn canu.

Bioamrywiaeth

Mae'r cynefinoedd yma yn wych ar gyfer rhywogaethau megis y glöyn copor bach, gwyfyn ffacbys a'r gwenynen clafrllys bach. Mae nadredd y gwair yn hela am frogaod yn y gwair gwlyb, mae bronwennod y dwr yn chwilio am berdys yn yr afon wrth i ddyfrgwn grwydro heibio. Mae modd adnabod bodaod trwy glywed eu synau 'kee-yaa' unigryw, eu hadenydd llydan a chrwn a'u cynffonau byr.

Mae planhigion y cynefin yma'n cynnwys gold y gors, gellesgen ac eglyn. Mae rhesi o hesg prin a chorsgudyn prydferth yn tyfu yn y cornentydd, a bacwn ac wy a dant y llew lleiaf yn tyfu ar y glaswelltir sych.

Rydyn ni'n byw yma ... Allwch chi ein gweld ni?

Comma

Glöyn Adain Garpiog - © Bethan Dalton

Common-Frog

Broga - © Bob Lewis

Yellow-Iris

Baner y Gors - © Lyn Evans

Monks-Hood

Cwcwll y Mynach- © Lyn Evans

Grass-Snake

Neidr y Gwair - © Wayne Withers

Marsh-Cinquefoil

Corsgudyn - © Lyn Evans

Marsh-Fritillary

Britheg y Gors - © Bethan Dalton

Dipper

Bronwen y Dŵr - © Wayne Withers