Mae Parc Gwledig Cwm Clydach yn safle mawr sy’n llawn bioamrywiaeth a llawer o gynefinoedd diddorol sy'n cyfuno i gynnal y bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref. Fe welwch chi lawer o adar dŵr ar y llyn uchaf, a hen chwarel yn llawn blodau penigan y porfeydd.
Mae Parc Gwledig Cwm Clydach a'i laswelltir sborion glo, coetir, grug, nant a llynoedd yn gyfoeth o fioamrywiaeth. Mae'r safle yma, sydd ar safle hen Lofa'r Cambrian, yn cynnal mosaig cyfoethog o rywogaethau arbennig.
Mae'r ddau lyn yn wych i weld adar dwˆr drwy gydol y flwyddyn. Ewch yno yn y gwanwyn i glywed corws y wawr ac i weld ambell fadfall cyffredin. Erbyn yr hydref mae blodau gwyllt brodorol prydferth, ac mae'r tegeiriannau ar eu gorau erbyn mis Mehefin. Yn y gaeaf cadwch lygad am gigfrain a gwrandewch ar heidiau o bilaod gwyrddion a llinosiaid pengoch yn y coed gwern.
Mae'r chwarel yn un o'r llefydd prin yng Nghyrmu sy'n cynnal nythfa bwysig o flodau beniganau'r porfeydd. Mae bod ar gerrig yn yr haul yn allweddol i'r planhigion yma oroesi. Mae'r llynnoedd yn gynefin gwych i anifeiliaid di-asgwrncefn, felly cadwch lygad am bicellwyr boliog a gweision neidr du a gwyliwch wenoliaid y bondo a gwenoliaid yn dal pryfed. Mae modd gweld cwtieir, ieir dwr, gwyachod bach a chrehyrod a gleision y dorlan yno.
Picellwr Boliog - © Wayne Withers
Egin Gwern - © Bob Lewis
Glas y Dorlan - © Wayne Withers
Gwalch-Wyfyn Hofrol - © Graeham Mouteney - Butterfly Conservation
Cribau San Ffraid - © Sue Westwood
Pila Gwyrdd - © Wayne Withers
Madfall Cyffredin - © Wayne Withers
Penigan y Porfeydd - © Kevin Oates
Browser does not support script.