Mae Caeau Cwm yn baradwys i fotanegwyr. Cadwch lygad am wialen y gwˆr ifanc a thegeirian cors y de, grug croesddail, tresgl y moch, melog y cwˆ n, cas gan arddwr, clychau'r cawr, tamaid y cythraul a gweddill fflora gwych y glaswelltir corsiog. Ym mis Mai a mis Mehefin gwyliwch löynnod britheg berlog, sydd wedi'u henwi ar ôl y perlau bach gwyn ar waelod eu hadennydd. Bydd clochdarod y cerrig yn eistedd ar berthi – gwrandewch ar eu cân sy'n swnio fel dwy garreg yn cael eu taro â'i gilydd. Mae cardwenyn brown yn bwydo ar flodau bacwn ac y a phengaled du, ac mae nadredd y gwair yn gorwedd yn yr haul ar bwys y rhedyn.