Mwynhewch y rhedyn a'r boncyff coed yn llawn mwsog a chen. Gwrandewch ar yr adar yn bwydo yn y coed. Cadwch lygad am ddringwyr y coed, titwˆod penddu, tingochiaid a titwod yr helyg prin. Ymysg y coed gwern mae hen goed afalau surion. Mwynhewch swn yr afon Dâr, lle mae gwreiddiau'r coed gwern yn rhoi cysgod i'r dyfrgwn.